Dewiswch lety hunanarlwyo moethus yn ein ffermdy sydd wedi'i adnewyddu'n hyfryd neu’r bythynnod cyfagos sy’n amgylchynu’r cwrt cymunedol.
Beth am gynllunio gwyliau ar gyfer hyd at 30 o ffrindiau a theulu - lle bydd pawb yn cael preifatrwydd a rhyddid yn eu hystafelloedd hyfryd eu hunain a’r gallu i ddod at ei gilydd ar gyfer prydau bwyd, aduniadau a gweithgareddau hamdden - heb adael y fferm!
Caiff eich holl ‘gysuron oddi cartref’ eu darparu yma ym Mhen Isa’r Llan. Rydym wedi cynllunio’r llety yn eithriadol o fanwl y tu mewn a’r tu allan er mwyn i chi gael cyrraedd, ymlacio a gwneud yr hyn yr ydych wedi dod i’w wneud – yn ddi-ffwdan a di-straen.
Os hoffech gael rhywun i goginio i chi neu gael triniaethau iechyd holistaidd fel rhan o’ch ymweliad, gallwn drefnu pecynnau arlwyo a maldodi ar eich cyfer.
Rydym yn hoffi meddwl nad oes dim yn ormod o drafferth er mwyn gwneud eich ymweliad yn un arbennig - felly os oes gennych unrhyw geisiadau penodol, gofynnwch i ni wrth archebu eich ymweliad.
Edrychwch pa un o'n dewisiadau llety sydd fwyaf addas i chi.
7 ystafell wely- Yn cysgu 14 / 16
Yn y ffermdy urddasol hwn sydd wedi'i adfer yn hyfryd, mae nodweddion gwreiddiol megis lloriau llechi a lleoedd tân carreg. Mae gan y ffermdy ei ardd ei hun sy’n wych ar gyfer gemau lawnt ac i fwynhau'r cefn gwlad godidog. Hefyd yn y ffermdy mae twbyn poeth, sawna, bath trochi oer a man eistedd cysgodol gyda stôf goed ar gyfer nosweithiau clyd. Mae'r ffermdy wedi'i addurno mewn arddull gwledig modern ac mae'r ystafelloedd agored yn fawr a chyfforddus ac yn cynnwys ffitiadau meddylgar a fydd yn darparu profiad gwyliau hyfryd i chi.
Llawr gwaelod
Mae'r cyntedd mawreddog yn cynnwys lloriau llechi gwreiddiol ac yn eich arwain at ystafell fwyta ar y chwith a lolfa ar y dde. Mae gan y ddwy ystafell hyn, sy’n olau ac yn agored, leoedd tân carreg gwreiddiol sy'n adlewyrchiad o'i gilydd a ddatgelwyd yn ystod y broses adfer.
Yn y lolfa mae teledu clyfar mawr, stôf goed, gemau bwrdd, llyfrau amrywiol a soffas cyfforddus er mwyn ymlacio. Yn yr ystafell fwyta ar wahân mae ardal bar pwrpasol sy'n cynnwys oerydd gwin, teledu clyfar a bwrdd bwyta mawr gyda lle i 16.
Mae'r gegin deuluol yn cynnwys trawstiau derw gwreiddiol wedi'u hadfer ac ynys ganolog fodern fawr. Gallwch eistedd yn gyfforddus, ymlacio gyda diod a mwynhau’r olygfa trwy'r ffenestr eang sy’n edrych dros y cwrt. Mae gan y gegin sydd wedi’i llunio’n ofalus sinc Belfast, hob anwytho, popty trydan, oergell a rhewgell a pheiriant golchi llestri ac mae'n arwain at ystafell amlbwrpas gyda pheiriant golchi ac ystafell gotiau a thoiled ar wahân.
Llawr cyntaf
Mae pedair ystafell wely ar y llawr cyntaf. Mae tair ohonynt yn ystafelloedd ensuite ac mae un ystafell ymolchi deuluol ar wahân. Mae gan ddwy o'r prif ystafelloedd gwely le tân llechi gwreiddiol a setiau teledu clyfar.
Dringwch y grisiau derw i'r Ail Lawr lle mae tair ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol gyda chawod fawr, bath, basn a thoiled.
3 ystafell wely- Yn cysgu 6
I gael mynediad i'r bwthyn hwn rhaid dringo grisiau allanol o'r cwrt, felly gallai fod yn anaddas i bobl â phroblemau symudedd. Mae Tŷ Top yn llawn cymeriad a naws gwledig ac yn cynnig llety cyfforddus a modern drwyddo draw. Mae'n ddelfrydol ar gyfer teulu neu grŵp mwy gyda thair ystafell wely, un ohonynt yn ensuite, ac ystafell ymolchi deuluol.
Rydych yn dod i mewn i'r bwthyn deniadol hwn trwy’r gegin hardd sy'n cynnwys bar brecwast, peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell fawr ac offer a dodrefn o’r radd flaenaf.
Mae’r ffrâm-A wreiddiol yn nenfwd y lolfa / ystafell fwyta yn ychwanegu at gymeriad yr ystafell ac mae wedi’i haddurno mewn arddull wledig fodern fel pob llety arall ar y safle.
Mae'r ystafell wely ensuite hyfryd yn edrych allan ar olygfeydd o’r Aran. Mae dwy ystafell wely ddwbl arall ac ystafell ymolchi deuluol sy'n darparu digon o le i bawb.
2 ystafell wely- yn cysgu 4
Mae'r bwthyn tlws hwn i gyd ar y llawr gwaelod a cheir mynediad iddo o'r cwrt. Rydych yn dod i mewn trwy'r gegin hyfryd sy'n cynnwys offer modern gan gynnwys peiriant golchi llestri cyfleus. Gyda lloriau slabiau mawr a gwres clyd o dan y llawr drwyddo draw, mae'n fwthyn hygyrch a chyfforddus. Mae'r ffenestri i gyd yn cynnwys silffoedd llechi gwreiddiol.
Rydych yn dod i mewn i'r bwthyn drwy’r gegin hyfryd sydd â bwrdd bwyta i 4.
Mae gan y lolfa gyfagos soffas lledr moethus, teledu clyfar, a digonedd o lyfrau a gemau i gadw pawb yn brysur dan do.
2 ystafell wely- yn cysgu 4
Mae'r bwthyn llawn cymeriad hwn i gyd ar un llawr a gellir cael mynediad iddo o'r Cwrt. Mae'r gwres o dan y llawr yn cadw'r bwthyn yn glyd ac mae'r lloriau slab mawr yn cyfrannu at yr edrychiad modern gwledig hyfryd a welir drwyddo draw.
Wrth ddod i mewn fe welwch y gegin a’i hystod lawn o offer o’r radd flaenaf gan gynnwys peiriant golchi llestri, oergell gyda blwch iâ a dodrefn.
Mae'r lolfa/ystafell fwyta yn lle hyfryd i ymlacio ar y soffas lledr a gwylio'r teledu clyfar neu fwynhau’r amrywiaeth o lyfrau a gemau sydd ar gael.
Mae dwy ystafell wely ddwbl hardd ac un ystafell ymolchi fawr, sydd â chawod, toiled a basn.