attractions

Mae llawer o resymau i’ch cymell i ymweld ag ardal Llyn Tegid. Dyma rai o'n ffefrynnau.

Harddwch Naturiol - Llyn Tegid

Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy’n llai na milltir o Ben Isa'r Llan, yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae mewn lleoliad prydferth wedi'i amgylchynu gan fryniau a mynyddoedd tonnog, gyda golygfeydd syfrdanol ac awyrgylch tawel.  Mae'r ardal yn ddelfrydol ar gyfer naturiaethwyr, cerddwyr, a ffotograffwyr brwd sydd am fwynhau a chofnodi harddwch cefn gwlad Cymru.

Gweithgareddau ar y Llyn

Mae Llyn Tegid yn cynnig gweithgareddau dŵr amrywiol ar gyfer gwahanol ddiddordebau ac oedrannau. Mae'r llyn yn lle poblogaidd i hwylio, caiacio, canŵio a hwylfyrddio. Gallwch rentu offer neu gael gwersi i fwynhau'r chwaraeon dŵr hyn. Mae’r llyn hefyd yn adnabyddus am gyfleoedd ardderchog i bysgota, yn enwedig brithyllod a phenllwydion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar balawatersports.com

Profiad Trên Stêm

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn rheilffordd dreftadaeth lein gul sy’n rhedeg ar hyd glan ddeheuol Llyn Tegid. Mae taith ar y trên stêm hwn yn cynnig profiad hiraethus, sy'n eich galluogi i werthfawrogi'r golygfeydd o safbwynt unigryw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar bala-lake-railway.co.uk

Hamdden Awyr Agored

Mae ardal Llyn Tegid yn hafan i selogion yr awyr agored. Mae nifer o lwybrau cerdded a beicio i’ch galluogi i archwilio'r wlad o gwmpas, gan gynnwys Mynyddoedd y Berwyn gerllaw. Mae'r rhanbarth yn cynnig lefelau anhawster amrywiol, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb, o fynd am dro hamddenol i heiciau mwy heriol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gobala.org

A yellow raft on a white water river

Atyniadau Diwylliannol

Mae’n werth archwilio rhai o’r atyniadaudiwylliannol yn ardal Llyn Tegid hefyd. Mae’r Bala ei hun yn dref farchnad hyfrydgydag adeiladau hanesyddol, siopau hynod, a bwytai lleol. Gallwch ymweld agatyniadau fel Eglwys y Santes Fair, adfeilion Castell y Bala, neu archwiliotreftadaeth ddiddorol a diwylliant Cymreig yr ardal. Mae rhagor o wybodaeth argael ar gobala.org

Chwaraeon Dŵr ac Antur

Yn ogystal â Llyn Tegid, mae’r ardal yn gartref i nifer o lynnoedd ac afonydd eraill sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dŵr a chwaraeon antur. Gallwch fynd i rafftio dŵr gwyn ar Afon Tryweryn gerllaw, sydd â dyfroedd gwyllt gwefreiddiol ac sy'n fan poblogaidd i'r rheiny sy'n frwd dros y gamp anturus hon. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar nationalwhitewatercentre.co.uk

Sunrise on Yr Wyddfa

Eryri

Mae ardal Eryri yn cwmpasu cannoedd o filltiroedd sgwâr ac yn cynnwys llynnoedd a mynyddoedd sy’n gwneud yr ardal yn faes chwarae awyr agored penigamp yng ngogledd Cymru. Gallwch ddringo’r Wyddfa i wylio’r haul yn codi, neu un o'r copaon eraill sy'n tueddu i fod yn llawer tawelach! Cynlluniwch eich amser yn y Parc Cenedlaethol i wneud y gorau o'ch ymweliad. Mae gan Zip World weithgareddau antur ar gyfer pob oedran.

Y Bala

Tref fechan yw’r Bala ond mae ganddi ddigon i’w gynnig i chi y tu hwnt i’r llyn syfrdanol. Mae toreth o dafarndai, bwytai a chaffis ar hyd y stryd fawr. Allan o’r dref mae Gwesty Palé Hall sy'n cynnig bwyty cain Seren Werdd Michelin ac sydd ar agor i ymwelwyr nad ydynt yn breswylwyr yno.

Mae ardal Llyn Tegid yng Nghymru yn cynnig cyfuniad hyfryd o harddwch naturiol, gweithgareddau awyr agored, atyniadau diwylliannol, a chyfleoedd i ymlacio ac anturio. P’un a ydych yn chwilio am ddihangfa dawel neu wyliau egnïol, mae’r ardal hon yn cynnig ystod o brofiadau sy’n darparu ar gyfer eich diddordebau ac yn codi chwant am fwy!

Sylwch ei bod bob amser yn syniad da edrych ar y gwefannau swyddogol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am atyniadau, gweithgareddau, ac unrhyw ofynion neu gyfyngiadau mynediad.

SITE CREDITS: Click for Photo Credits and Web Designer Information