Ydych chi’n cynllunio priodas? Neu ben-blwydd arbennig? Neu unrhyw ddathliad mawr? Beth am wneud penwythnos ohoni? Llenwch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi i drafod ymhellach.
Mae gennym ardd eang, agored a ffrwythlon gyda golygfeydd godidog ac rydym ond deng munud ar droed o Lyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae digonedd o raeadrau, mynyddoedd a llynnoedd ledled Eryri. Os yw'n well gennych gampau egnïol, mae dewis eang o weithgareddau i’w mwynhau ar y dŵr, y ffyrdd ac yn y coedwigoedd cyfagos. Gweler ein tudalen atyniadau am ragor o wybodaeth am hyn.