Gwybodaeth Defnyddiol

Gwirio i mewn/allan

Gallwch gyrraedd o 4yh.
Rhaid i westeion adael cyn 10yb

Gwybodaeth cŵn

Mae croeso i gŵn gyda chi ar eich arhosiad, ar yr amod eu bod yn ymddwyn yn dda, mae cost ychwanegol ar gyfer pob ci. Mae'n ddrwg gennym ond nid ydym yn caniatáu cŵn bach. Mae gennym lawer o le ac opsiynau cerdded lleol ar gyfer eich cŵn yn ogystal ag ardal wedi'i ffensio er mwyn iddynt fod yn ddiogel oddi ar dennyn.

Cliriwch ar ôl eich ci fel bod yr ardal yn cael ei chadw'n lân ar gyfer gwesteion eraill.

Dosbarthiadau siopa

Rydych chi'n gallu archebu nwyddau i'w dosbarthu i'ch llety tra byddwch chi'n aros gyda ni. Sicrhewch fod unrhyw gyflenwadau yn cyrraedd ar ôl 5yh ar eich diwrnod cyntaf er mwyn osgoi unrhyw broblemau.

Gallwch archebu nwyddau o Waitrose, Tesco, Morrisons ac ASDA (cod post LL23 7DW)

Ceir Trydan

Mae gennym 2 bwynt gwefru cerbydau trydan (Math 2) ar gael i'w defnyddio.

Trefnidiaeth Cyhoeddus

Amserlen Bws

Mae arosfan bws tu allan i'r eiddo. Mae'r bysiau yn rhedeg rhwng Wrecsam a Bermo (T3)

Storio beiciau / caiac

Llwybrau Beicio

Mae storfa y gellir ei gloi lle gallwch storio'ch beiciau a'ch caiacau yn ystod eich arhosiad.Os oes gennych ddiddordeb mewn llwybrau lleol, gallwch gael gwybodaeth ar y ddolen uchod

Cyfarwyddiadau gyrru

Gallwch weld pin googlemaps a chyfeirnod w3w ar ein tudalen gyswllt fel y gallwch gael cyfarwyddiadau tro wrth dro yn gyflym.

Cyfarwyddiadau cyffredinol o'r Gogledd
- Dilynwch yr M56 tua'r de i'r A55 tan allanfa 35
- Dilynwch yr A5104 hyd at y gyffordd gyda'r A5, gan droi i'r dde wrth y goleuadau traffig.
- Wrth y goleuadau nesaf cymerwch yr A494 (chwith) a pharhau i gyfeiriad y Bala
- Saif Pen Isa'r Llan ar y dde tua milltir o'r Bala. Mae yna gyfres o droadau miniog ac yna adran hir syth i lawr ar y ffordd ddynesu (ar ôl Sarnau)
- Edrychwch am enw'r pentref Llanfor

Cyfarwyddiadau cyffredinol o'r De (osgoi Ffyrdd y Mynydd)
- Dilynwch yr M6, M55 a'r A5 i gyfeiriad Amwythig, yna Y Waun a Llangollen
- Cymerwch yr A494 ar ôl Corwen a pharhau i gyfeiriad y Bala
- Saif Pen Isa'r Llan ar y dde tua milltir o'r Bala. Mae yna gyfres o droadau miniog ac yna adran hir syth i lawr ar y ffordd ddynesu (ar ôl Sarnau)
- Edrychwch am enw'r pentref Llanfor

SITE CREDITS: Click for Photo Credits and Web Designer Information